Gwasanaethau brys tu allan i Arena Manceinion wedi ffrwydrad nos Lun. Llun: Peter Byrne/PA Wire
Ar ôl cyfres o gyrchoedd gan yr heddlu wedi’r ymosodiad gan hunan-fomiwr ym Manceinion nos Lun, mae’r llywodraeth wedi gostwng lefel y rhybudd o ymosodiad arall.
Fe fydd milwyr sy’n gwarchod y strydoedd ac adeiladau cyhoeddus ar hyn o bryd hefyd yn cael eu tynnu’n ôl yn raddol o ddydd Llun ymlaen.
Mae’r datblygiad diweddaraf yn awgrymu hyder ymysg yr awdurdodau fod y cyrchoedd yn erbyn rhwydweithiau tebygol yr hunan-fomiwr Salman Abedi wedi lleihau’r bygythiadau am y tro.
Ar ôl yr ymosodiad yn Arena Mancenion nos Lun, pryd y cafodd 22 o bobl gan gynnwys saith o blant eu lladd, fe wnaeth JTAC, y sefydliad sy’n gyfrifiol am asesu risgiau o ymosodiad brawychol, godi’r risg i’r lefel uchaf un ar y raddfa, sef ‘critical’.
Arwyddocâd y risg uchaf yma yw y gellir disgwyl ymosodiad arall ‘unrhyw funud’.
Lefel y risg bellach yw ‘severe’, sy’n golygu bod ymosodiad yn ‘debygol iawn’.
Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Manceinion, Ian Hopkins, fod yr heddu wedi gwneud “cynnydd sylweddol” yn yr ymchwiliad, gyda “gweithredwyr allweddol” sy’n honedig gysylltiedig â’r ymosodiad wedi cael eu harestio.
Mae 11 o bobl yn dal yn y ddalfa bellach, ar ôl i gyrch yn ardal Cheetham Hill o’r ddinas yn oriau mân y bore arwain at arestio’r ddau ddiweddaraf, sef dyn 20 oed a dyn 22 oed.