Gwasanaethau brys tu allan i Arena Manceinion wedi ffrwydrad Llun: Peter Byrne/PA Wire
Mae dau ddyn arall wedi cael eu harestio ym Manceinion yn ystod oriau mân y bore wrth i’r heddlu barhau â’u hymchwiliad i’r ymosodiad mewn cyngerdd yn y ddinas nos Lun.
Fe fu’n rhaid i’r heddlu ddefnyddio dyfais ffrwydrol i gael i mewn i dŷ yn ardal Cheetham Hill o’r ddinas i arestio’r ddau ddyn 20 a 22 oed.
Mae 11 o bobl yn y ddalfa bellach ar amheuaeth o fod â rhan yn yr ymosodiad gan hunan-fomiwr a laddodd 22 o blant a phobl ifanc.
Fe fydd dros 1,000 o heddlu arfog wrth law mewn digwyddiadau mawr dros y penwythnos, gan gynnwys gemau terfynol cwpan yr FA yn Wembley a’r uwch gynghrair rygbi yn Twickenham.
Ar yr un pryd, mae’r heddlu’n annog pobl i fynd allan a mwynhau eu hunain.
Maen nhw’n dweud bod cynnydd ‘enfawr’ wedi ei wneud yn yr ymchwiliad i gymdeithion yr hunan-fomiwr Salman Abedi ac yn honni bod ‘rhan fawr’ o’i rwydwaith wedi cael ei ddatgymalu.