Mae disgwyl glaw trwm ledled Prydain dros y penwythnos wrth i’r tywydd anarferol o hafaidd ddod i ben am y tro.
Am y trydydd diwrnod yn olynol, ddoe oedd diwrnod poethaf y flwyddyn ym mhob un o wledydd Prydain.
Gyda thymheredd o 28.9 gradd C (84F) roedd Porthmadog yn gynhesach nag unlle arall yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yr unig le cynhesach oedd Lossiemouth yng ngogledd yr Alban, lle cofnodwyd tymheredd o 29.4 gradd C (85F).
Mae newid mawr ar y gweill fodd bynnag, gyda rhybuddion o law trwm ar y ffordd.
“Mae’r cawodydd trymaf ac amlaf yn debygol o fod ar draws gogledd Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban drwy’r dydd heddiw,” meddai Luke Miall o’r Swyddfa Dywydd.
“Byddwn yn gweld cawodydd trymion iawn yma, gyda mellt a’r risg o genllysg hefyd.”
Mae disgwyl i Gymru a de Lloegr aros yn braf heddiw, ond yn wlyb iawn o yfory ymlaen.
“Gallwn ddisgwyl cawodydd trwm o fellt a tharanau ddydd Sul a dydd Llun,” meddai Luke Miall.
Mae’r tymheredd hefyd yn debygol o ostwng yn sylweddol.