Barack Obama, cyn-arlywydd America
Mae cyn-arlywydd America, Barack Obama, wedi addo dychwelyd i’r Alban ar ôl ei ymweliad cyntaf â’r wlad.

Roedd yno ar wahoddiad y philanthropydd Syr Tom Hunter i siarad mewn digwyddiad i godi arian at achosion da. Fe ddaeth tua 1,200 o bobl i wrando arno, gan gynnwys y Prif Weinidog Nicola Sturgeon, yr awdur J K Rowling a’r cerddor Annie Lennox. Fe fydd elw’r digwyddiad yn cael ei rannu rhwng elusennau plant yn yr Alban a Sefydliad Obama.

Yn ei araith, dywedodd fod gan yr Alban “lawer i’w gynnig i’r byd” a bod “Ewrop gref, unedig yn hanfodol i’r byd”.

Rhoddodd deyrnged hefyd i’r rhai a gafodd eu lladd yn yr ymosodiad ym Manceinion.

“Dw i’n argyhoeddedig y bydd y rhai sy’n gyfrifol am y weithred yn cael eu dal ac y bydd y rhwydweithiau’n cael eu datgymalu,” meddai.

Fe dreuliodd y cyn-arlywydd y rhan fwyaf o’i amser yn chwarae gêm o golff yn St Andrews mewn gwres o 26 gradd C – ac addawodd y byddai’n dod yn ôl i brofi tywydd Albanaidd go-iawn.

“Dw i’n addo y byddaf yn ôl oherwydd, os na fydd yn glawio ac yn wyntog, fydda i ddim yn teimlo fy mod wedi cael profiad llawn o’r Alban,” meddai.