Mae dau ddyn wedi’u cyhuddo yn achos taid a gafodd ei ladd ger rhes o dacsis yng nghanol tref glan mor yn ne Lloegr yn gynharach eleni.

Fe gafodd Brian Hill, 60, ei anafu ar Chwefror 3, ynghyd â dyn arall 53 oed, yn dilyn anghytundeb ynglyn â thacsi yn nhref Hastings, Dwyrain Sussex.

Fe gafodd Brian Hill ei gludo i’r ysbyty yn Brighton, lle bu farw y diwrnod canlynol. Mae’r dyn arall yn dal i wella o’i anafiadau.

Mae dau ddyn – Matthew Smith, 22, o Hastings, ac Elliot Bourdon-Pierre, 24, o Rye – wedi’u cyhuddo o ddynladdiad ac o achosi niwed corfforol difrifol.

Mae disgwyl i’r ddau ymddangos gerbron Llys Ynadon Hastings ar Fehefin 7.