Mae disgwyl i ffordd yn Llanhari fod ynghau am rai oriau, wedi gwrthdrawiad difrifol rhwng car a lori.
Mae’r gwasanaethau brys wedi’u galw i safle’r ddamwain ar Ffordd Llanhari, ac mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau fod nifer o bobol wedi’u hanafu.
Wrth ofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i ddod ymlaen i roi tystiolaeth, mae llefarydd ar ran yr heddlu hefyd yn diolch i deithwyr am eu hamynedd tra bo swyddogion yn delio â’r digwyddiad.