Nicolas Maduro, yr arlywydd y mae protestwyr eisiau cael gwared arno
Dyn 20 oed a gafodd ei saethu yn ei ben ddydd Gwener, ydi’r protestiwr diweddaraf i gael ei ladd yn y pumed wythnos o derfysg yn Venezuela.

Bu farw Hecder Lugo ar ol cael ei saethu yn ninas ddiwydiannol Valencia, lle bu protestiadau mawr ddydd Iau.

Mae o leiaf 38 o bobol wedi’u lladd yn y gwrthdystiadau yn erbyn y llywodraeth, ac mae 700 o bobol eraill wedi’u hanafu.

Mae’r wrthblaid yn y wlad yn galw am gynnal etholiad arlywyddol, er mwyn ceisio cael gwared â’r arlywydd presennol Nicolas Maduro.

Mae disgwyl y bydd protestwyr yn gorymdeithiol trwy’r brifddinas, Caracas, ddydd Sadwrn.