Mae’r awdurdodau wedi atafaelu gwerth £200,000 o’r cyffur cocên oddi ar fferi rhwng gwlad Belg a’r Alban.
Fe ddaethpwyd o hyd i’r cyffur dosbarth A ar drêlar yn cario metal, wrth i’r bad gyrraedd Rosyth, Fife, o Zeebrugge.
Y gred ydi y byddai gwerth y cyffur ar y stryd – ar ôi dorri – wedi bod yn llawer iawn mwy na £200,000. A
Ac mae’r heddlu yn dweud eu bod nhw’n credu mai’r bwriad oedd cymryd y cyffur oddi ar y fferi a’i gario mewn car neu fan i ddinas Caeredin i’w werthu.