Gweddillion hynafol Hatra, Irac
Mae lluoedd Irac yn dweud eu bod nhw wedi meddiannu Hatra – safle hanesyddol 2,000 oed ger dinas Mosul lle mae brwydr wedi bod ers misoedd rhyngddyn nhw a’r Wladwriaeth Islamaidd (IS).
Mae’r gwrthryfelwyr Shïa wedi darlledu lluniau o’r safle, yn dangso y gweddillion hynafol yn y cefndir, tra bod cerbydau milwrol yn gyrru trwodd. Ond dydi hi ddim yn glir o’r lluniau p’un ai ydi’r lluoedd mewn rheolaeth o’r safle.
Ond yn ol llefarydd ar ran y milwyr, maen nhw bellach yn rheoli’r fan sy’n Safle Treftadaeth y Byd.
Mae lluoedd Irac yn aml yn brolio eu bod wedi gyrru IS o ambell i ardal, cyn bod IS yn cwffio’n ôl ac yn ei hail-feddiannu.
Y gred ydi fod Hatra wedi’i chodi yn yr ail neu’r drydedd ganrif Cyn Crist, a hynny gan Ymherodraeth Seleucid.