Tudalen flaen y papur ar ôl yr ail gwest
Mae Maer Lerpwl, Joe Anderson wedi galw ar i bapur newydd The Sun ddiswyddo’r colofnydd a’r cyn-olygydd Kelvin MacKenzie.
Dywedodd na ddylai’r newyddiadurwr oedd yn gyfrifol am benawdau sarhaus am gefnogwyr tîm pêl-droed Lerpwl ar ôl y trychineb ar Ebrill 15, 1989 gael gweithio fel newyddiadurwr eto.
Daw sylwadau Joe Anderson ar ôl i Kelvin MacKenzie sarhau chwaraewr Everton, Ross Barkley, sydd â theulu yn hanu o Nigeria, drwy ei gymharu â gorila.
Dywedodd Joe Anderson fod Kelvin McKenzie yn “gelwyddgi ac yn anwybodus”, gan ei gyhuddo o fod â “fendeta” yn erbyn dinas Lerpwl.
“Mae cymharu Ross Barkley â gorila, gyda’r Sun a MacKenzie yn gwybod yn iawn am ei gefndir Nigeriaidd, yn gwbl gywilyddus.
“Bydd geiriau Kelvin wedi cael eu trosglwyddo rhwng sawl person a’u hawdurdodi gan olygydd. All anwybodaeth ddim cael ei ddefnyddio fel amddiffynfa.
“Dydy ymddiheuriad gan MacKenzie, pe bawn ni’n cael un, ddim yn ddigon – mae pobol Lerpwl yn gwybod yn iawn cyn lleied maen nhw’n ei olygu.
“Ni ddylai Kelvin MacKenzie gael ei gyflogi gan unrhyw gwmni newyddion yn y wlad hon. Dylai Kelvin MacKenzie gael ei ddiswyddo gan bapur newydd The Sun.”
Penawdau
Roedd Kelvin MacKenzie yn olygydd y papur yn 1989 pan gafodd cefnogwyr Lerpwl, ddyddiau’n unig wedi’r trychineb, eu cyhuddo o achosi marwolaeth y 96 o gefnogwyr drwy or-yfed a chamymddwyn.
Y tro hwn, mae Kelvin MacKenzie yn mynnu nad oedd e’n gwybod am gefndir ethnig Ross Barkley ac na ddylid ystyried ei golofn fel un hiliol a bod yr helynt “y tu hwnt i barodi”.
Dywedodd Joe Anderson fod Kelvin MacKenzie yn “barodi o newyddiaduwr”.
“Nid fy mai i yw’r ffaith fod y dyn yn anwybodus, a dyna’r anwybodaeth oedd wedi achosi’r sarhad am Hillsborough a’r 96 o bobol a gollodd eu bywydau.”
Lerpwl
Yn ôl Joe Anderson, mae’r papur newydd yn un sy’n honni ei fod yn cynrychioli’r dosbarth gweithiol, ond eto’n un sy’n sarhau pobol dosbarth gweithiol Lerpwl.
Ymhlith ei sylwadau roedd y ffaith fod unrhyw un sy’n ennill dros £60,000 yr wythnos yn Lerpwl yn amlwg yn gwerthu cyffuriau.
“Dyma ddyn a chanddo ryw fath o fendeta, a rhyw agwedd ddieflig at Lerpwl, oherwydd fe wnaethon ni ddangos beth yw e – celwyddgi a dyn anwybodus.
“Ein hymgais ni am gyfiawnder sydd wedi gwyrdroi un o’r methiannau gwaethaf erioed i gael cyfiawnder yn y wlad hon, a chafodd hynny ei gefnogi gan ei bapur a’i sylwadau cas am bobol Lerpwl a’r 96 o unigolion a gollodd eu bywydau.
“Ei gasineb at Lerpwl yw’r rheswm pam ei fod e wedi gwneud yr hyn mae e wedi’i wneud.”
Mae Joe Anderson wedi cysylltu â’r heddlu ynghylch y sylwadau, ac wedi cwyno wrth awdurdodau’r wasg.
Mae Clwb Pêl-droed Everton wedi gwahardd newyddiadurwyr o’r papur newydd rhag mynd i Barc Goodison ar gyfer y gêm yn erbyn Burnley heddiw.