Cofeb Hillsborough yn Anfield (Llun: golwg360)
Fe fydd gwasanaeth yn cael ei gynnal yng Nghadeirlan Anglicanaidd Lerpwl heddiw i nodi 28 o flynyddoedd ers trychineb Hillsborough.
Cafodd 96 o gefnogwyr tîm pêl-droed Lerpwl eu gwasgu i farwolaeth yn y stadiwm yn Sheffield wrth i’w tîm herio Nottingham Forest yn rownd gyn-derfynol Cwpan yr FA ar Ebrill 15, 1989.
Fe fu gwasanaethau coffa blynyddol yn stadiwm Anfield yn Lerpwl ar hyd y blynyddoedd, ond mae’r rheiny bellach wedi dod i ben yn dilyn cais gan yr Hillsborough Family Support Group (HFSG).
Gwasanaeth preifat
O hyn ymlaen, fe fydd dwy eglwys gadeiriol y ddinas yn cymryd eu tro i gynnal y gwasanaeth.
Bydd y gwasanaeth heddiw’n dechrau am 2.45pm, a bydd munud o dawelwch am 3.06pm, yr union amser y cafodd y gêm ei chanslo yn 1989.
Mae’r gwasanaeth yn un preifat i’r teuluoedd, yn groes i’r traddodiad o gynnal gwasanaeth cyhoeddus.
Bydd tîm pêl-droed Lerpwl yn cynnal munud o dawelwch wrth iddyn nhw ymarfer ym Melwood, cae ymarfer y clwb.