Yr Uchel Lys yn Llundain
Mae barnwr yn yr Uchel Lys wedi dyfarnu y dylid rhoi’r gorau i ddefnyddio peiriant cynnal bywyd ar gyfer babi wyth mis oed.
Dywedodd y barnwr Mr Ustus Francis ei fod wedi gwneud y penderfyniad gyda “chalon drom” ond ei fod yn credu mai dyma’r peth gorau i’r plentyn.
Roedd meddygon o’r farn y dylai Charlie Gard, sy’n dioddef o gyflwr genetig prin a niwed i’w ymennydd, gael gofal lliniarol.
Ond roedd ei rieni yn anghytuno ac eisiau mynd a’u mab i ysbyty yn yr Unol Daleithiau ar gyfer triniaeth arbrofol.
“Dewr”
Yn dilyn y dyfarniad heddiw, dywedodd cyfreithiwr ei rieni, Chris Gard a Connie Yates, o Bedfont, gorllewin Llundain, eu bod wedi’u “tristau’n ofnadwy” ac nad oeddan nhw’n deall pam nad oedd y llys wedi rhoi’r cyfle iddo gael triniaeth yn America. Dywedodd eu bod yn ystyried y camau nesaf ac y gallen nhw fynd a’u hachos i’r Llys Apêl.
Roedd y barnwr wedi bod yn ystyried y dystiolaeth dros gyfnod o dri diwrnod ac wedi ymweld â Charlie Gard yn Ysbyty Great Ormond Street.
Wrth gyhoeddi ei ddyfarniad dywedodd Mr Ustus Francis ei fod wedi penderfynu y dylai Charlie Gard gael marw gydag urddas.
Roedd wedi canmol ei rieni am eu hymgyrch “dewr ac urddasol”.
Apêl
Roedd y cwpl wedi lansio apêl ar wefan GoFundMe ddeufis yn ôl gan ddweud eu bod angen £1.2 miliwn i ariannu’r driniaeth ar gyfer Charlie Gard yn America. Roedd yr apêl wedi cyrraedd ei tharged ddydd Sul ar ôl i fwy na 80,000 o bobl gyfrannu arian.
Dywedodd llefarydd ar ran GoFundMe y byddan nhw’n trafod gyda’r rhieni o fewn y dyddiau nesaf i benderfynu beth i’w wneud gyda’r arian.