Awyren United Airlines (Llun: United Airlines)
Mae fideo yn dangos dyn yn cael ei lusgo o’i sedd ar awyren United Airlines wedi denu ymateb chwyrn ar gyfryngau cymdeithasol.

Yn y fideo mae swyddogion yr heddlu i’w gweld yn dal y dyn a’i dynnu dros ei sedd ac yna ei lusgo i lawr yr awyren.

Roedd cwmni awyrennau United Airlines yn ceisio gwneud lle i bedwar o’u gweithwyr ar yr awyren a gofynnodd y cwmni i deithwyr wirfoddoli i roi’r gorau i’w seddi.

Pan wrthododd teithwyr i wneud hynny, penderfynodd y cwmni ddewis pedwar person ar hap a’u gorfodi i adael – ond fe wrthododd y pedwerydd person i adael yr awyren.

Mae Prif Weithredwr rhiant gwmni United Airlines, Oscar Munoz, wedi ymddiheuro i gwsmeriaid.