Mae nifer y mewnfudwyr i’r Deyrnas Unedig wedi gostwng i’w lefel isaf ers dros ddwy flynedd, yn ôl ystadegau newydd.

Yn ystod y deuddeng mis hyd at Fedi 2016, fe ddaeth 273,000 yn fwy o bobol i mewn i wledydd Prydain nag oedd wedi allfudo, sydd yn ostyngiad o 49,000 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Dyma’r lefel isaf sydd wedi ei chofnodi ers Mehefin 2014, a’r tro cyntaf i’r ffigwr gwympo dan 300,000 ers dwy flynedd.

Y ffigurau yma gan y Swyddfa Ystadegau yw’r rhai cynta’ i gynnwys ystadegau mewnfudo o’r wythnosau yn dilyn y refferendwm dros aelodaeth yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin y llynedd.

Mewnfudo ac allfudo

O ran mewnfudo yn unig, fe ddaeth 596,000 o bobol i wledydd Prydain rhwng Medi 2015 a 2016, a bu cynnydd yn y nifer o bobol a ddaeth o wledydd Bwlgaria a Rwmania.

Fe adawodd 323,000 o bobol ]y Deyrnas Unedig yn ystod yr un cyfnod, gyda chynnydd yn nifer y bobol o’r Weriniaeth Tsiec, Estonia, Hwngari, Latfia, Lithwania, Gwlad Pwyl, Slofacia a Slofenia a adawodd.

“Cwymp calonogol”

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd wedi eu beirniadu am eu nod o weld yn ffigur yn disgyn dan 100,000 wedi croesawi’r cwymp.

“Mae’r cwymp yn galonogol ond dim ond un set o ystadegau yw’r casgliad yma. Rydym am barhau i weithio tuag at leihau’r lefel i ddegau o filoedd,” meddai’r Gweinidog Mewnfudo, Robert Goodwill.