Y ddiweddar Helen Bailey, a'i llofrudd, Ian Stewart (Llun: PA)
Mae cymar awdur lyfrau plant a gafodd ei lladd a’i thaflu i bwll carthffosiaeth, wedi cael ei garcharu am beth bynnag 34 o flynyddoedd.

Fe dreuliodd Ian Stewart, 56, wythnosau yn gwenwyno ei bartner, Helen Bailey, cyn ei mygu i farwolaeth y llynedd.

Yna, fe gafodd corff yr awdures 51 oed ei guddio mewn pwll carthffosiaeth o dan ei chartre’ am dri mis, ynghyd â chorff ei chi.

Yn dilyn achos llys sydd wedi para saith wythnos yn Llys y Goron St Albans, mae’r Barnwr Andrew Bright wedi dedfrydu Ian Stewart i oes dan glo, gydag amod ei fod yn treulio o leia’ 34 mlynedd yng ngharchar.