John Bercow
Mae cysgod tros ddyfodol Llefarydd Tŷ’r cyffredin.

Mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol James Duddridge wedi cyflwyno cynnig o ddiffyg hyder yn John Bercow yn dilyn ei sylwadau am yr Arlywydd Donald Trump.

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin dywedodd  John Bercow ei fod “yn teimlo’n gryf yn erbyn y posibiliad o’r Arlywydd Donald Trump yn annerch neuadd San Steffan”.

Mae nifer wedi ochri â’r Llefarydd gan gefnogi ei sylwadau a’i gymeradwyo am “foderneiddio” y rôl, tra bod eraill yn ei gyhuddo o fod wedi methu yn ei ddyletswydd o fod yn ddiduedd.

Dywedodd Douglas Carswell Aelod Seneddol UKIP, wnaeth ddod â chyfnod Michael Martin yn Llefarydd Tŷ’r Cyffredin i ben yn dilyn ei gynnig o ddiffyg hyder, bod y weithred yn “annoeth”.

Os na fydd y senedd yn caniatáu dadl ar y mater mae’n bosib gall deiseb gyhoeddus alluogi pleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin.