Bu deg ymgyrchydd yn picedu ger gorsafoedd trên Bangor a Chaerfyrddin dydd Iau yn erbyn y “diffyg gwasanaeth Cymraeg” sydd yno.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn pwyso ar Drênau Arriva Cymru – sy’n derbyn sybsidi cyhoeddus – i wneud eu gorsafoedd yn fwy dwyieithog, cyn y bydd Safonau’r Gymraeg yn cael eu gosod ar gwmnïau trên a bws.

Mae’r Safonau i fod I gael eu gosod dros y misoedd nesa’, ond does dim cadarnhad wedi dod eto pryd yn union fydd hyn yn digwydd.

Galwadau’r Gymdeithas

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Drenau Arriva Cymru i wneud y canlynol:

  • Gwneud sgriniau ar blatfformau bob un o’u gorsafoedd yng Nghymru’n ddwyieithog.
  • Gwneud yr holl sgriniau a chyhoeddiadau ar y trenau’n ddwyieithog.
  • Gwneud eu holl ddeunyddiau, megis posteri a thocynnau, yn Gymraeg
  • Sicrhau bod pob aelod o staff sy’n delio â chwsmeriaid yn medru cynnig gwasanaeth Cymraeg ac yn cyfarch pob cwsmer yn Gymraeg
  • Sicrhau y darperir gwasanaeth wyneb yn wyneb cyflawn Cymraeg ym mhob swyddfa docynnau ac ar bob trên.

“Dim hawliau”

“Mae’n glir nad oes ots gan Arriva na Network Rail am y Gymraeg, ac maen nhw’n anwybyddu cwynion cyson gan bobl am y diffygion di-ri,” meddai Manon Elin, cadeirydd grŵp hawl y mudiad.

“Mae oedi Llywodraeth Cymru rhag pasio’r Safonau yn annerbyniol ac yn tanseilio hawliau pobol i’r Gymraeg. Mae argymhellion yn eistedd ar ddesg y Gweinidog Alun Davies, ond, eto, dydyn ni ddim wedi clywed dim pryd fydd yna bleidlais yn y Cynulliad [ar osod y Safonau].

“Mae diffyg defnydd o’r Gymraeg gan Drenau Arriva Cymru yn warthus. Does gan y teithwyr ddim yr un hawliau iaith ag y bidden nhw’n eu disgwyl mewn meysydd eraill.

Dywedodd llefarydd ar ran Trenau Arriva Cymru: “Rydym yn cydweithio’n agos â Chomisiynydd y Gymraeg ac yn nodi ein Polisi Iaith Gymraeg yn ein Siarter Teithwyr. Rydym yn ymrwymo i ddarparu gwybodaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd lle bo’n bosib.”

Mae golwg360 wedi holi Llywodraeth Cymru am amserlen gosod Safonau’r Gymraeg.