Mae pedoffeil a dreuliodd ddwy flynedd yn Sbaen yn ceisio osgoi’r heddlu, wedi’i garcharu.

Fe ddihangodd Matthew Sammon, 46, o wledydd Prydain wedi iddo gael ei ryddhau ar fechnïaeth yn 2014. Roedd llys wedi ei gael yn euog bryd hynny o fod â phornograffi plant yn ei feddiant.

Fe gafodd y cyn-dowr ei ddal gyda 35,000 o ddelweddau anweddus a ffilmiau o blant yn ei feddiant, yn cynnwys ffilmiau oedd wedi’u ffilmio’n gudd mewn canolfannau hamdden a phyllau nofio.

Treuliodd Matthew Sammon dros ddwy flynedd ar herw, cyn cael ei ddal ar y Costa del Sol ym mis Hydref y llynedd.

Mae wedi’i ddedfrydu i ddwy flynedd a hanner dan glo wedi i Lys Ynadon Southwark ei gael yn euog o chwe chyhuddiad o gynhyrchu a bod â delweddau anweddus o blant yn ei feddiant.