Mae astudiaeth i reolau gwisg yn y gweithle yn dangos bod rhai cyflogwyr wedi dweud wrth weithwyr benywaidd y dylen nhw liwio’u gwallt, gwisgo dillad sgimpi a cholur trwm.

Mae’r astudiaeth yn dilyn adroddiad gan bwyllgor yn y Senedd yn Llundain wedi i achos dynes a gafodd y sac am beidio â gwisgo esgidiau â sodlau uchel. Mae mwy na 150,000 o bobol wedi llofnodi deiseb yn datgan eu cefnogaeth i’r ysgrifenyddes o Lundain, Nicola Throp.

Mynnodd ei chyflogwyr yng nghwmni ariannol PwC fod rhaid iddi wisgo esgidiau â sodlau 2 i 4 modfedd.

Pan wrthododd hi, gan ddweud nad oedd dynion yn cael eu gorfodi i’w gwisgo, cafodd hi ei hanfon o’r gwaith heb gael ei thalu.

Wrth i Bwyllgor Deisebau a Phwyllgor Menywod a Chydraddoldeb San Steffan gynnal ymchwiliad, daeth hi i’r amlwg nad digwyddiad unigryw mo hwn.

Dywed y pwyllgorau fod “cannoedd” o ddigwyddiadau tebyg yng ngwledydd Prydain.

Yn ôl eu hadroddiad, “dydy’r gyfraith bresennol ddim eto’n gwbl effeithiol wrth warchod gweithwyr rhag gwahaniaethu yn y gwaith”.

Maen nhw wedi galw ar y Llywodraeth i adolygu’r gyfraith ac i ofyn i’r Senedd ei newid i’w gwneud yn “fwy effeithiol”.

Cymdeithas Fawcett

Yn ôl Cymdeithas Fawcett, sy’n gwarchod hawliau menywod a chydraddoldeb, mae gorfodi menywod i gadw at god dillad arbennig yn cyfleu’r neges fod ymddangosiad yn bwysicach na’u sgiliau, eu profiad a’u lleisiau.

Mewn datganiad, dywedodd y gymdeithas fod gofyn i fenywod wisgo mewn ffordd arbennig yn “arwain at y sylweddoliad anghyfforddus fod y cwmni maen nhw’n gweithio iddo’n elwa o’u cyrff”.

Dywedodd y TUC mewn datganiad fod “gormod o gyflogwyr yn sownd yn y gorffennol”.

Ychwanegodd prif weithredwr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Rebecca Hilsenrath fod y fath agweddau’n “anghywir ac yn hynafol”.