Mae’r dyn fu farw ar y Glyder Fawr dros y Sul, wedi’i enwi.

Roedd Neil Parnell yn 52 oed, yn dod o Nottingham, ac mae prawf post mortem yn dweud iddo farw’n naturiol. Oherwydd hynny, fydd yna ddim cwest.

Fe gafodd tim achub Dyffryn Ogwen ei alw wedi adroddiadau fod dyn wedi syrthio i agen ac wedi brifo’i ben.

Fe gafodd Neil Parnell ei gludo i’r ysbyty ym Mangor gan ambiwlans Gwylwyr y Glannau o Gaernarfon, ond bu farw yn ddiweddarach.