Yr actor Gorden Kaye Llun: Tony Harris/PA Wire
Mae’r actor Gorden Kaye, sy’n fwyaf adnabyddus am ei rôl yn y gyfres gomedi ‘Allo ‘Allo!, wedi marw yn 75 oed.

Roedd Gorden Kaye yn chwarae perchennog y caffi, Rene Artois, yn y gyfres a oedd wedi’i gosod yn Ffrainc yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Roedd ei asiant wedi cadarnhau ei fod wedi marw ddydd Llun ond nid oedd wedi gwneud sylw pellach.

Fe ddechreuodd y sioe ar BBC 1 yn 1982 hyd at 1991.

Roedd Gorden Kaye hefyd wedi ymddangos mewn fersiwn o ‘Allo ‘Allo! ar y llwyfan ynghyd a’r cast gwreiddiol.

Yn 1990 bu bron iddo farw ar ôl i ddarn o bren daro yn erbyn ffenestr ei gar yn ystod storm gan achosi anafiadau difrifol i’w ben.

Mae’r BBC wed rhoi teyrnged i’r “actor gwych” gan ddweud ei fod wedi cyfrannu at wneud ‘Allo ‘Allo yn gyfres mor boblogaidd