Mae trefnwyr Gŵyl Gopr Amlwch (Copperfest) wedi cyhoeddi na fydd yr ŵyl gerddorol yn cael ei chynnal y flwyddyn nesaf.
Yn ôl datganiad gan bwyllgor Gŵyl Gopr Amlwch pwysau ariannol a’r pwyslais cynyddol ar iechyd a diogelwch sydd yn gyfrifol am y penderfyniad.
Bu’r ŵyl yn dathlu ei phen-blwydd yn ddeg oed y llynedd ac mae’r trefnwyr wedi amcangyfrif bod tua 150,000 o bobl a 250 o fandiau wedi bod yn yr ŵyl ers ei chynnal y tro cyntaf.
“L lwyddiannus”
Dywedodd un o drefnwyr yr ŵyl Arwel Hughes wrth Golwg360: “Pres yw’r brif broblem, mae hel £34,000 bob blwyddyn ond yn mynd yn anoddach, ac Awst 1 y llynedd o’n i £19,000 yn brin… hefyd mae gofynion iechyd a diogelwch y wlad yn mynd yn fwy tynn.
“Oedd o’n ofnadwy o lwyddiannus blwyddyn ddiwethaf, jest bechod, mae o’n drist,” meddai ynglŷn â llwyddiannau’r ŵyl gan ychwanegu, “baswn i ddim yn peidio gwneud un arall.”
Wrth siarad am yr her ariannol o gynnal yr ŵyl dywedodd: “Pam does ‘na ddim grant? Oes wyt ti’n medru profi bod ti ‘di sefydlu gŵyl fel hyn a bod o yn helpu’r gymuned gymaint, pam dydyn nhw ddim yn rhoi lwmp o bres i wyliau [o’r fath]?”hefyd oedd eich croesawu chi oll i Amlwch, cefnogwyr a pherfformwyr i fod yn ein plith bob haf! Rydym yn amcangyfrif bod oddeutu 150,000 o bobl a 250 o fandiau wedi bod yn yr ŵyl Gopr ers ei chynnal y tro cyntaf… Dyna ddangos llwyddiant grŵp bach o bobl benderfynol! Diolch o galon i breswylwyr a phobl Amlwch am eich cymorth ar hyd y blynyddoedd. Rydym yn gobeithio y bydd rhywun yn mynd ati i gynnal yr ŵyl eto am flynyddoedd, ryw ddiwrnod! Nid oes modd mynd ati i enwi pob unigolyn a oedd yn rhan o’r ŵyl, neu a oedd yn gyfrifol am ei rhedeg a diolch iddynt. Felly dyma ddiolch, o waelod calon, i bob un ohonoch. Ni fedrwn beidio â diolch o waelod calon, hefyd i’r busnesau lleol sydd wedi ein cefnogi ar hyd y blynyddoedd ac i’r holl wirfoddolwyr am eu gwaith caled yn stiwardio, gweithio wrth y bar a helpu wrth wneud popeth y gallent i wneud yr ŵyl yn un llwyddiannus. Diolch arbennig iawn i gwmni sain a goleuo MAD am gael defnyddio eu hoffer am ddim bob blwyddyn – ni fyddai modd cynnal yr ŵyl hebddynt hwy.