Mae’r cwmni sy’n cyhoeddi papur newydd y Daily Mirror wedi cadarnhau ei fod mewn trafodaethau i brynu siâr fechan o’r cwmni sy’n cyhoeddi’r Daily Express, Northern & Shell.
Yn ôl Trinity Mirror, mae’n ddyddiau cynnar ar y trafodaethau gyda’r grwp sy’n eiddo i Richard Desmond.
“Mae bwrdd Trinity Mirror plc yn cydnabod fod yna gryn sylwebu wedi bod yn ddiweddar, ac felly’n cadarnhau fod y trafodaethau i brynu cyfran fechan o gwmni newydd, yn cynnwys Northern & Shell, yn mynd rhagddyn,” meddai llefarydd.
“Nid oes cynnig wedi’i wneud, a does yna ddim sicrwydd y bydd cytundeb.”
Dyma’r ail waith mewn blwyddyn i Trinity Mirror gynnal trafodaethau gyda Northern & Shell, sy’n berchen ar deitlau’r Daily Express a’r Daily Star. Trinity Mirror ydi perchnogion y Western Mail, y Daily Post a nifer o bapurau lleol yng Nghymru fel y Caernarfon & Denbigh.