(Llun: PA)
Mae ail ddyn wedi cael ei gyhuddo mewn perthynas â therfysg mewn carchar yn Birmingham fis diwethaf.
Roedd Robert Smith, 33, gerbron ynadon yn y ddinas y bore ma, wedi’i gyhuddo o fiwtini mewn carchar yn dilyn y digwyddiad ar Ragfyr 16.
Cafodd Ross Queen, 30, ei gyhuddo o fiwtini a thynnu llun heb awdurdod ddydd Gwener.
Mae disgwyl i Queen bledio’n ddieuog i dri chyhuddiad.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa, ac fe fydd yn ymddangos yn Llys y Goron Birmingham ar Chwefror 3.
Mae ymchwiliad i’r terfysgoedd yng ngharchar Winson Green ar y gweill.