Tom Jones (Llun: Facebook)
Mae nifer o elusennau’n galw ar benaethiaid ITV i ddiswyddo Syr Tom Jones yn dilyn ei sylwadau am un o enillwyr blaenorol y gyfres ‘The Voice’.
Yn ôl y canwr byd-enwog o Bontypridd, oherwydd ei phwysau y methodd Leanne Mitchell yn ei hymgais i ddod yn seren.
Dywedodd nad oedd ganddi ddigon o frwdfrydedd i lwyddo, a’i bod hi wedi parhau i fagu pwysau ers ei buddugoliaeth.
Yn ôl papur newydd y Mirror, dywedodd Syr Tom Jones wrth lansio’r gyfres newydd: “Pan ddaeth hi ymlaen gyntaf, wnes i feddwl am ei theneuo hi rywfaint.
“Roedd Leanne wedi dod yn gyfforddus yn canu yn y gwersyll gwyliau ’ma ac wedi magu ychydig o bwysau.
Mae nifer o elusennau menywod ac elusennau sy’n cefnogi pobol ag afiechydon bwyta wedi beirniadu’r sylw.
“Yn lle cymryd y cyfle o ennill The Voice a chael y cyfle i gael cytundeb recordio, rhywbeth wnaeth hi, mi wnaeth hi fagu rhagor o bwysau. Doedd ganddi ddim brwdfrydedd.
“Doedd hi ddim yn ymddangos ei bod hi’n bachu ar y cyfle gyda’i dwy law a dweud “Dyma ‘nghyfle i”.”
Mae Leanne Mitchell wedi dweud droeon nad yw hi’n fodlon colli pwysau er mwyn bod yn llwyddiannus.
Cyfaddefodd Tom Jones ei fod e wedi bod yn llwyddiannus yn rhannol am ei fod e’n olygus.
Cafodd ei ddiswyddo gan y BBC y llynedd, ond mae e’n dychwelyd i’r gyfres eleni ar ITV.
Mae llefarydd ar ran y rhaglen wedi amddiffyn ei sylwadau, gan ddweud nad oedd yn “bwriadu achosi sarhad”.