Mae teulu bachgen 16 oed y cafwyd hyd i’w gorff mewn llyn pysgota yn dweud eu bod nhw “wedi torri eu calonnau”.

Aeth Jack Morrisson ar goll brynhawn dydd Gwener ar ôl bod yn pysgota ger Dartford yn Swydd Gaint.

Cafwyd hyd i’w gorff brynhawn dydd Sadwrn.

Wrth dalu teyrnged iddo, dywedodd ei deulu mewn daganiad mai ei “gariad mawr” oedd mynd i bysgota ar benwythnosau, a’i fod yn bêl-droediwr oedd yn chwarae i dîm academi Violenti.

Cafodd ei ddisgrifio “fel angel hardd” oedd wedi dod â mwynhad i bawb.

Mae teyrngedau hefyd wedi’u rhoi iddo ar wefannau cymdeithasol, gyda nifer o’i ffrindiau’n newid eu llun proffil i lun o Jack yn dal pysgodyn.

Mae Heddlu Swydd Gaint yn paratoi adroddiad ar gyfer y crwner.