Mae profion dŵr a charthffosiaeth 18 o dinasoedd Ewrop yn awgrymu bod pobol Llundain ymysg prif ddefnyddwyr Ewrop o’r cyffur cocên.
Mae’r astudiaeth ddangos bod defnydd cocên yn Ewrop ar ei uchaf yn Llundain yn ystod yr wythnos, ond mai dinasyddion Antwerp yw’r prif ddefnyddwyr ar y penwythnosau.
Mae’r ystadegau hefyd yn dangos bod defnydd o gocên wedi codi ymysg pobol o gartrefi sydd ag incwm o £50,000 neu fwy yng Nghymru a Lloegr, ond bod defnydd o’r cyffur wedi lleihau ymysg pobol o gartrefi ag incwm is.
Mae’r profion yn dangos bod cynnydd wedi bod yn y cyffur MDMA yng nghyflenwadau dŵr dinasoedd Ewrop rhwng 2011 a 2016. Un rheswm tros hynny yw cynnydd ym mhurdeb y cyffur, yn hytrach na chynnydd yn y defnydd o MDMA.