Mae gyrrwr tractor a oedd wedi yfed cymaint â 13 peint o gwrw y noson cyn iddo ladd bachgen 11 oed ar fferm, wedi cael ei garcharu am dros flwyddyn.

Yn Llys y Goron Leeds, fe gafodd Gary Green, 51, wedi’i ddedfrydu i 16 mis o garchar am dorri rheolau iechyd a diogelwch a arweiniodd at farwolaeth Harry Whitlam ar fferm ger y ddinas.

Roedd Gary Green wedi yfed mwy na dwywaith faint sy’n gyfreithiol pan ddigwyddodd y ddamwan ym mis Awst 2013. Roedd wedi honni iddo yfed pedwar peint yn y dafarn y noson gynt, a dau gan o gwrw wedyn gartre’.

Ond fe glywodd y llys gan arbenigwr fod Gary Green wedi yfed llawer mwy na hynny, cyn mynd i’w wely am 2yb.