Y ddiweddar Zaha Hadid
Fe fydd oriel fathemateg sydd wedi’i hysbrydoli gan waith y Fonesig Zaha Hadid yn agor yn Amgueddfa Wyddoniaeth Llundain yr wythnos hon.
Fe fydd hanesion, henebau a gwaith dylunio’r pensaer yn tynnu sylw at ran mathemateg yn ein bywydau bob dydd, gan ganolbwyntio ar sut mae mathemategwyr wedi dylanwadu ar y byd dros y bedair canrif diwethaf.
Bu farw’r Fonesig Zaha Hadid ym mis Mawrth eleni, a hwn yw ei phrosiect cyntaf yng ngwledydd Prydain, ond roedd hi wedi cyflwyno’r cynlluniau ar gyfer yr oriel dros ddwy flynedd yn ôl.
Dywedodd cyfarwyddwr Grŵp yr Amgueddfa Wyddoniaeth, Ian Blatchford y bydd yr oriel yn “deyrnged barhaus” iddi.
Bydd yr oriel yn cynnwys dros gant o ddarnau sydd wedi’u dewis o blith nifer o arddangosfeydd.
Dywedodd Zaha Hadid yn y gorffennol fod “mathemateg yn rhan o fywyd bob dydd” wrth iddi dyfu i fyny yn Irac ac y byddai hi’n “chwarae â phroblemau mathemateg yn yr un modd ag y bydden ni’n chwarae â phen a phapur i ddylunio – roedd mathemateg fel gwneud sgets”.