Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion yn dilyn damwain angheuol yn y brifddinas toc cyn cinio dydd Mercher.
Fe gafodd dyn 70 mlwydd oed ei gludo i’r Ysbyty Athrofaol toc wedi hanner dydd, wedi’r gwrthdrawiad ar Heol y Gogledd, Caerdydd.
Fe aeth car Peugeot lliw arian ar ei ben i mewn i wal ger pencadlys yr ambiwlans yn ardal y Gored Ddu (Blackweir). Roedd wedi marw pan gyrhaeddodd yr ysbyty, ond chafodd y wraig oedd yn teithio yn y car ddim ei hanafu o gwbwl.
Doedd yna’r un cerbyd arall yn rhan o’r digwyddiad.
Fe fu Heol y Gogledd ar gau am oddeutu awr a hanner tra bu’r heddlu’n ymchwilio.