Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (ISIS) wedi ymosod ar luoedd Irac yn ne-ddwyrain Mosul wrth iddyn nhw geisio tynhau eu gafael ar y ddinas.
Does dim llawer o fanylion wedi cael eu cyhoeddi hyd yn hyn, ond mae lle i gredu bod nifer sylweddol o “golledion”.
Dydy Gweinyddiaeth Amddiffyn Irac ddim wedi gwneud sylw.
Ddydd Mawrth, daeth y lluoedd ben-ben â’i gilydd cyn i ddwsinau o gerbydau lluoedd arbennig Irac fynd i mewn i’r ddinas y bore ma.
Mosul yw ail ddinas fwyaf Irac, ac mae’n un o gadarnleoedd ola’r Wladwriaeth Islamaidd yn y wlad.