Mae Theresa May yn gobeithio sicrhau cytundeb masnach gwerth £30 biliwn wrth iddi ymweld â’r Gwlff.

Wrth iddi fynychu cynhadledd Cyngor Cydweithredu’r Gwlff yn Bahrain, fe fydd y Prif Weinidog yn ceisio sicrhau cysylltiadau busnes rhwng y Deyrnas Unedig a’r Dwyrain Canol.

Theresa May yw’r trydydd arweinydd yn unig o’r Gorllewin, a’r ddynes gyntaf, i gael gwahoddiad i’r gynhadledd.

Cyn y cyfarfod fe ddywedodd y Prif Weinidog ei bod yn “fraint” cael gwahoddiad i’r gynhadledd gan ychwanegu: “wrth i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, fe ddylem fanteisio ar y cyfleoedd i sicrhau trefniadau masnach newydd rhwng y DU a’r Gwlff. Fe allai hyn drawsnewid y ffordd rydym yn gweithredu yn y byd busnes.”