Fe fydd Llywodraeth Prydain yn mynd i’r Goruchaf Lys heddiw mewn cam hanesyddol i geisio ennill yr  hawl i gychwyn y broses gyfreithiol o adael yr Undeb Ewropeaidd heb gymeradwyaeth Aelodau Seneddol.

Y mis diwethaf, fe benderfynodd yr Uchel Lys mai’r Senedd yn unig sydd â’r grym i gymeradwyo tanio Erthygl 50 yn hysbysu’r Undeb Ewropeaidd fod Prydain yn gadael y sefydliad.

Roedd rhai sydd o blaid Brexit yn dadlau y bydd hyn yn tanseilio awdurdod Prif Weinidog Prydain, Theresa May, wrth drafod gyda gwledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd cyn i Brydain adael.

Nawr, fe fydd 11 o farnwyr y Goruchaf Lys – y nifer uchaf i fod ynghlwm ag apêl – yn dweud eu dweud ar un o’r achosion pwysicaf mewn cenedlaethau ac yn penderfynu a ddylid gwyrdroi penderfyniad yr Uchel Lys.

Os yw’r apêl yn methu, bydd unrhyw apêl bellach i’r Llys Cyfiawnder Ewropeaidd hefyd yn methu, ond mae Theresa May wedi dweud ei bod yn bwriadu cychwyn y trafodaethau ffurfiol ar Brexit erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Cymru

Fe fydd Cwnsler Cyffredinol Cymru – sef arbenigwr cyfreithiol Llywodraeth Cymru – yn dadlau yn erbyn Llywodraeth Prydain wrth iddi apelio am yr hawl i weithredu Erthygl 50 a gwrthod yr apêl.

Fe fydd Mick Antoniw hefyd yn dadlau y bydd yn rhaid i Lywodraeth Prydain gael cydsyniad y Cynulliad i unrhyw newid yn statws cyfansoddiadol Cymru yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ar yr un pryd, mae’n mynnu na fydd Llywodraeth Cymru’n ceisio rhwystro Llywodraeth Prydain rhag gweithredu Erthygl 50 i adael yr Undeb Ewropeaidd.