Jeremy Corbyn, arweinydd Llafur, y Blaid Lafur, Llun: PA
Huw Prys Jones yn edrych ar argyfwng cynyddol y Blaid Lafur yn sgil ei hymateb i Brexit

Mae’r arolygon barn eisoes wedi dangos pa mor anobeithiol ydi hi ar y Blaid Lafur. Maen nhw’n awgrymu’n gryf nad ydi’r cynnydd yn niferoedd yr aelodau’n adlewyrchu unrhyw gynnydd cyfatebol yn ei hapêl ymysg y cyhoedd.

I ychwanegu at ei thrafferthion, daeth dau fygythiad newydd i’r amlwg yn sgil arweinydd newydd i Ukip a buddugoliaeth syfrdanol gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn Richmond.

Mae’n wir y gall pethau fynd yn flêr eto gydag Ukip ac na all Paul Nuttall fwy nag unrhyw arweinydd arall gyflawni gwyrthiau os digwydd hynny. Ond mae’n amlwg fod Ukip o ddifrif yn ei bwriad i dargedu pleidleiswyr traddodiadol Llafur. Mae’n ymddangos hefyd fod Ukip yn deall dyheadau a rhagfarnau llawer o’r bobl yma yn well nag y mae sosialwyr dosbarth canol Llafur.

Ac er mor wan yw’r Democratiaid Rhyddfrydol bellach, mae eu polisïau tuag at yr Undeb Ewropeaidd a Brexit yn haeddu mwy o barch na dim sydd gan Lafur i’w ddweud.

Mae Llafur yn agored felly i golli pleidleisiau ar ddau begwn y ddadl Ewropeaidd i’r ddwy blaid, yn ogystal â phleidleisiau y maen nhw’n amlwg yn eu colli i’r Torïaid ar hyn o bryd.

Yma yng Nghymru, wrth gwrs, mae Plaid Cymru hefyd yn y ras am bleidleiswyr Llafur sydd wedi eu dadrithio. Mae’n debyg nad bygythiad gan unrhyw un blaid benodol yw’r perygl mawr i Lafur, ond yn hytrach colli cymharol ychydig bleidleisiau i’r holl bleidiau eraill. Os bydd hyn yn digwydd, gall ddechrau colli seddau ar raddfa sylweddol.

Llafur ei hun sydd ar fai

Wrth weld Llafur yn wynebu’r bygythiadau hyn o sawl cyfeiriad, y peth sy’n rhyfeddu rhywun fwyaf ydi oes ganddi neb ond hi ei hun i’w feio.

Roedd ei diffyg ymrwymiad wrth ymgyrchu yn erbyn Brexit yn ddigon drwg, ond mae ei hagwedd gwasaidd ers hynny wedi bod yn gwbl wrthun.

Wrth ddadlau dros yr angen i ‘barchu’ canlyniad y refferendwm, mae ei harweinwyr yn troi cefn ar y mwyafrif o’i chefnogwyr a wrthododd addewidion gwag a chelwyddog Nigel Farage a Boris Johnson yn y refferendwm.

Mae honni y byddai’n ddyletswydd arni i gefnogi cynnig seneddol i weithredu Erthygl 50 yn hollol wirion. Swyddogaeth gwrthblaid ydi gwneud pethau’n anodd i’r Llywodraeth; o ddilyn ei rhesymeg bod rhyw fath o ddyletswydd democrataidd i ddilyn barn yr etholwyr, byddai’r un mor resymol dadlau y dylai Llafur hefyd bleidleisio dros fesurau Torïaidd fel torri ar fudd-daliadau.

Ar ben hyn, mae eu safbwyntiau hefyd yn hynod o annhebygol o fodloni’r lleiafrif o bleidleiswyr Llafur a gefnogodd Brexit hefyd.

I lawer o’r rheini sydd wedi llyncu dadleuon celwyddog a rhagfarnllyd ymgyrchwyr Brexit, fydd dim byd a fydd gan Lafur i’w ddweud yn debygol o’u  bodloni. Pa werth cefnogi efelychiad gwael o Ukip pan fo modd pleidleisio i’r un go iawn?

Mae Jeremy Corbyn fel petai’n mynnu cael y gwaethaf o ddau fyd trwy ymddangos yn or-eiddgar i adael yr Undeb Ewropeaidd ar y naill law, ond eto’n mynnu’r hawl i fewnfudo dilyffethair ar y llall.

Gwlad ranedig

Daw yn fwyfwy tebygol y gall y rhaniadau dwfn a gafodd eu creu gan refferendwm yr Undeb Ewropeaidd gael ei adlewyrchu fwyfwy ym mhatrymau pleidleisio’r dyfodol.

Ac efallai mai da o beth fydd hynny. Gellir dadlau bod barn pobl tuag gydweithio â gwledydd eraill Ewrop yn faen prawf llawer pwysicach a mwy arwyddocaol o’u hagweddau na labelau simplistig os ydi rhywun ar y dde neu ar y chwith yn wleidyddol.

Rhaid cofio bod y Blaid Geidwadol hefyd yn fwy rhanedig nag mae’n ymddangos ar y pwnc, dim ond fod barn y rheini a oedd o blaid aros yn yr Undeb yn cael ei fygu ar hyn o bryd.

Mewn sefyllfa o’r fath, mae’n ddigon rhesymol disgwyl i bleidiau sy’n rhanedig ar bwnc pwysicaf y dydd golli tir i’r pleidiau hynny sy’n unedig ar y mater.

Yn y cyfamser, fodd bynnag, mae creu hynny ag sy’n bosibl o drafferthion i lywodraeth Brexit yn dasg sy’n rhy fawr i unrhyw blaid ar ei phen ei hun.

Y flaenoriaeth ydi sicrhau cydweithrediad effeithiol rhwng y rheini ohonom nad ydym wedi llyncu celwyddau Nigel Farage a’i debyg.

Mae’n hanfodol sicrhau bod y byd y tu allan yn deall pa mor ranedig ydi Prydain ar y pwnc, ac nad yw pobl fel Boris Johnson yn cynrychioli safbwyntiau pawb o bell ffordd.

Ar un adeg, gellid bod wedi disgwyl i Lafur chwarae rhan adeiladol mewn brwydr dros frawdoliaeth ryngwladol. Eironi o’r mwyaf felly ydi gweld mai’r sosialwyr pellaf i’r chwith yn ei rhengoedd ydi’r rhai sy’n ymddangos i fod fwyaf parod i blygu glin i’r sefydliad cenedlaetholgar Seisnig.