Mae dyn 29 oed wedi’i gadw yn y ddalfa yn unol â’r Dddeddf Iechyd Meddwl ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o ddifrodi pabïau ar gofeb rhyfel yn Southampton.
Cafodd fideo ei rannu ar wefannau cymdeithasol yn dangos dyn yn taflu pabïau oddi ar gofeb ar ôl Sul y Cofio.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Swydd Hampshire fod y dyn wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tan Ionawr 19.
Dywedodd yr unigolyn a bostiodd y fideo ar Facebook fod gweithred y dyn yn “ffiaidd”.