Holyrood (Llun: SNP)
Gallai’r Alban gael rhagor o bwerau datganoledig o ganlyniad i benderfyniad Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl Ysgrifennydd yr Alban David Mundell.
Dywed fod y penderfyniad yn debygol o newid y setliad datganoli yn yr Alban ac yng ngwledydd eraill Prydain, ac y gallai’r newidiadau hynny fod yn gyfystyr â’r rheiny a ddaeth yn sgil comisiynau Calman a Smith.
Dywed David Mundell ei fod yn awyddus i ennyn “dadl a thrafodaeth” ar y mater.
Dywedodd wrth y Sunday Times: “Un o’r gwahaniaethau mwyaf sylfaenol y gallen ni ei deimlo yn yr Alban ar ôl Brexit yw’r newidiadau i’r setliad datganoli.
“Gallai’r setliad datganoli gael ei effeithio i’r un graddau â’r hyn sy’n cael ei gynnig gan Gomisiwn Calman a Chomisiwn Smith. Dyma faes eithriadol o gymhleth ac mae angen cwblhau corff anferth o waith er mwyn edrych ar hyn i benderfynu beth allai ddod yn ôl a sut y dylai ddigwydd.
“Hyd yma, does neb wedi cymryd rhan i unrhyw raddau.
“Mae angen i ni weithio allan sut fydd y DU yn gweithio orau ar ôl i bwerau gael eu symud i’r Deyrnas Unedig, a pha bwerau fydd yn cael eu symud i’r Alban.
“Beth bynnag yw’r amgylchiadau, ni fydd unrhyw bwerau’n cael eu hail-atal i San Steffan.”