Mae dau o bobol a nifer o anifeiliaid wedi cael eu hachub yn dilyn tân ym Mro Morgannwg y bore ma.
Dechreuodd y tân yn ystafell fyw’r tŷ yn Saint-y-brid am 1.41yb, ac fe aeth y bobol yn gaeth mewn ystafell wely.
Cawson nhw a’u hanifeiliaid – nifer o gathod a chŵn – eu hachub gan ddiffoddwyr tân.
Ond ni chafodd unrhyw un ei anafu.
Mae lle i gredu bod y tân yn un damweiniol, ac mae ymchwiliad ar y gweill.