Mae teuluoedd dau ddyn a gafodd eu lladd yn dilyn gwrthdrawiad tram yn Croydon wedi talu teyrnged iddyn nhw.

Roedd Donald Collett a Philip Logan ymhlith saith o bobol a gafodd eu lladd pan aeth tram oddi ar y cledrau, gan anafu mwy na 50 o bobol fore Mercher.

Cafodd gyrrwr y tram ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad, ac fe gafodd ei ryddhau ar fechnïaeth yn ddiweddarach.

Dywedodd teulu Donald Collett, 62, eu bod nhw’n “cael trafferth dod i delerau â’r newyddion trasig yma”.

“Roedd Don wedi’i garu, yn ddoniol ac yn ddyn hael a allai oleuo ystafell gyda’i wên. Mae e, yn drasig, yn gadael teulu cariadus, partner, ffrindiau a chydweithwyr cariadus.”

Dywedodd teulu Philip Logan y byddai “colled enfawr ar ei ôl i bawb oedd yn ei adnabod”.

Roedd yn briod â Marilyn, meddai datganiad, ac yn frawd i Susan, yn dad i Lee, Tracy, Lisa ac Adele ac yn dad-cu ac yn hen dad-cu.

Dywedodd ei deulu nad oedd geiriau’n gallu disgrifio ei “awch am fywyd”.

Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enwau’r rhai eraill fu farw yn y digwyddiad – Robert Huxley, 63, Dorota Rynkiewicz, 35, Mark Smith, 35, Philip Seary, 57, a Dane Chinnery, 19.

Mae ymchwiliad i’r digwyddiad ar y gweill.