Mae Arlywydd newydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump yn “gryf iawn” o blaid magu perthynas dda â Llywodraeth Prydain, yn ôl arweinydd UKIP, Nigel Farage.

Farage yw’r gwleidydd cyntaf o wledydd Prydain i gyfarfod â Trump ers iddo gael ei ethol yn Arlywydd yr wythnos diwethaf.

Cyfarfu’r ddau yn Trump Tower yn Efrog Newydd, gan dreulio awr a mwy yn trafod y fuddugoliaeth, gwleidyddiaeth y byd a statws Brexit, meddai llefarydd ar ran UKIP.

Yn ystod y cyfarfod, mae’n debyg bod Farage wedi gofyn i Trump ddychwelyd cerflun o Syr Winston Churchill i’w swyddfa yn y Tŷ Gwyn.

Cafodd y cerflun ei symud gan Barack Obama, ond mae Trump “wedi gwirioni” yn dilyn yr awgrym gan Farage.

Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd Farage ei bod yn “anrhydedd” cael treulio amser yng nghwmni Trump.

Ychwanegodd ei fod yn “hyderus” y bydd Trump yn Arlywydd da.

“Mae ei gefnogaeth i berthynas UDA-DU yn gryf iawn. Dyma ddyn y gallwn ni fasnachu â fe.”

Mae Farage wedi rhybuddio Prif Weinidog Prydain, Theresa May droeon fod angen iddi fagu perthynas â Trump.

Ond mae llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain yn mynnu nad oes gan Farage ran i’w chwarae mewn perthynas o’r fath.

Yn ôl pôl piniwn newydd gan ComRes, dim ond 15% o drigolion gwledydd Prydain sy’n credu y bydd Trump yn Arlywydd da.

Dim ond 53% sy’n credu, fodd bynnag, y bydd yn gwneud smonach ohoni yn y swydd.

Yn ôl 66%, bydd y byd yn beryclach o lawer yn ystod cyfnod Trump wrth y llyw.