Mae gitarydd a chyfansoddwr caneuon y band roc Bad Company yn gwella yn yr ysbyty wedi iddo ddiodde’ strôc.

Bellach yn 72 oed, Mick Ralphs oedd un o sefydlwyr y band ddaeth yn boblogaidd yn y 1970au gyda hits megis ‘Can’t Get Enough’ a ‘Feel Like Making Love’.

Daeth y gwahanol aelodau Bad Company at ei gilydd yn 1973 o ludw’r bandiau Free, Mott The Hoople a King Crimson.

Roedd Mick Ralphs yn chwarae’r gitâr i Mott The Hoople, y band gafodd lwyddiant gyda’u fersiwn nhw o ‘All The Young Dudes’ gan David Bowie.