Mae’r seren roc Sting yn ail-agor neuadd gyngerdd Bataclan flwyddyn wedi’r ymosodiadau brawychol ym Mharis.
Bydd y cerddor 65 mlwydd oed yn perfformio ar lwyfan ble cafodd dwsinau eu lladd ar 12 Tachwedd 2015.
Ar 13 Tachwedd y llynedd, ymosododd brawychwyr Islamaidd eithafol ar neuadd Bataclan yn ystod gig The Eagles of Death Metal ac fe laddodd hunan fomwyr 89 o bobl yno.
Ar yr un diwrnod roedd ymosodiadau hefyd ar y stadiwm chwaraeon cenedlaethol a chaffis ym Mharis.
Meddai Sting: “Wrth ail-agor y Bataclan, mae gennym ddwy dasg bwysig. Yn gyntaf, i gofio ac anrhydeddu’r rhai a gollodd eu bywydau yn yr ymosodiad flwyddyn yn ôl. Ac yn ail, i ddathlu’r bywyd a’r gerddoriaeth mae’r theatr hanesyddol yma’n ei chynrychioli.”
Bydd yr holl elw o’r gyngerdd yn cael ei roi i Life For Paris a 13 Novembre: Fraternite Verite.