Amber Rudd, yr Ysgrifennydd Cartref, Llun: PA
Mae Ysgrifennydd Cartref Llywodraeth Prydain wedi gwrthod galwadau heddiw am ymchwiliad annibynnol i’r gwrthdaro a fu rhwng yr heddlu a’r glowyr yn Orgreave yn ne Swydd Efrog yn 1984.
Dywedodd Amber Rudd ei bod wedi dod i’r “penderfyniad anodd” oherwydd “yn y pendraw doedd dim marwolaethau nac euogfarnau anghyfiawn” wedi deillio o’r digwyddiad hwnnw.
Roedd yn cydnabod y byddai ei phenderfyniad yn siom i ymgyrchwyr Ymgyrch Gwirionedd a Chyfiawnder Orgreave sydd wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus i waith Heddlu De Efrog yn ystod y cyfnod.
Fe wrthododd honiadau’r ymgyrchwyr oedd yn dweud na fyddai trychineb Hillsborough wedi digwydd pum mlynedd yn ddiweddarach pe bai’r hyn ddigwyddodd yn Orgreave wedi cael eu “trin yn iawn” ar y pryd.
‘Rhesymau manwl’
Yn ei datganiad dywed Amber Rudd, “er gwaetha’r dadleuon a’r achosion cryf gan yr ymgyrchwyr a chyn glowyr, nad oedd yn bresennol heddiw, am effaith y digwyddiadau hyn arnyn nhw, yn y pendraw doedd dim marwolaethau nac euogfarnau anghyfiawn.”
“Rwy’n gwybod fod y penderfyniad hwn yn mynd i fod yn siom i Ymgyrch Gwirionedd a Chyfiawnder Orgreave a’u cefnogwyr ac rwyf wedi nodi mewn llythyr iddyn nhw heddiw resymau manwl am fy mhenderfyniad.”