Iris Owens Llun: Heddlu Gwent
Mae dyn 47 oed wedi ymddangos yn y llys i gael ei ddedfrydu am lofruddio ei fam yng ngardd ei chartref yn Ystrad Mynach ger Caerffili.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod Robert Owens wedi cicio, tagu ac ymosod ar Iris Owens, 75, gyda llif gadwyn ar 3 Mai eleni.

Roedd Robert Owens wedi cyfaddef iddo lofruddio ei fam mewn gwrandawiad ar 9 Medi.

Yn dilyn yr ymosodiad am tua 5yp ar 3 Mai fe ffoniodd Robert Owens am ambiwlans, clywodd y llys.

Yn ystod yr alwad 999 dywedodd Robert Owens bod ei fam wedi “mynd yn wallgof” a’i bod yn yr ardd ond nad oedd hi’n anadlu.

Fe gyrhaeddodd parafeddygon am 5.40yp gan ddod o hyd i Owens gyda gwaed ar ei ddwylo a’i ddillad.

Daethon nhw o hyd i Iris Owens yn gorwedd ar ei chefn ger coeden yn yr ardd gefn, gydag anaf i’w gwddf.

Fe gadarnhawyd ei bod wedi marw am 5.42yp.

‘Heroin’

Pan ofynnwyd i Owens am ei gefndir meddygol, dywedodd ei fod yn gaeth i heroin a’i fod wedi cymryd y cyffur y tro diwethaf am hanner nos ar 3 Mai.

Fe ddangosodd profion yn ddiweddarach bod ganddo forffin, heroin a chocên yn ei system.

Cafodd Owens ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ei fam ar yr un diwrnod.

Roedd archwiliad post mortem yn dangos bod Iris Owens wedi marw o anaf i’w phen a’i gwddf.

‘Llawn bywyd’

Clywodd y llys bod Owens wedi symud i fyw gyda’i fam ar ôl iddo ef a’i wraig wahanu yn 2006.

Cafodd Iris Owens ei disgrifio fel dynes “gweithgar, llawn bywyd ac annibynnol” a oedd yn gwirfoddoli ar gyfer elusennau.

Dywedodd Simon Laws QC ar ran yr amddiffyniad bod Owens yn edifar yr hyn a wnaeth a bod ganddo “berthynas clos, cariadus a chefnogol” gyda’i fam.

Dywedodd Mrs Ustus Nicola Davies ei bod yn gohirio ei ddedfrydu tan ddydd Mawrth er mwyn adlewyrchu ar yr “achos trasig ac anarferol.”