Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cadarnhau heddiw eu bod wedi gorfod clirio eu campws yng Ngorseinon o ganlyniad i rybudd am gemegau.
Yn ôl y coleg, nid oes cysylltiad rhwng y digwyddiad hwn â’r tân ddamweiniol ar eu campws Tŷ Coch yn Abertawe’r wythnos diwethaf.
Mae’r digwyddiad heddiw yn ymwneud â chemegyn mewn un o’u labordai gwyddonol.
Mae’r coleg wedi cadarnhau eu bod wedi dilyn y cyfarwyddiadau priodol, a bod bysiau wedi’u trefnu i gasglu’r myfyrwyr oddi ar y safle.