Mae gyrrwr lori a laddodd fam a thri o blant ar ôl taro i mewn i gefn eu car mewn tagfeydd ar ffordd ddeuol wedi cael ei garcharu am 10 mlynedd.

Roedd Tomasz Kroker, 30, yn defnyddio ei ffon symudol ar adeg y ddamwain yn Newbury,  Berkshire pan laddodd Tracey Houghton, 45, a’i meibion Ethan Houghton, 13, a Josh Houghton, 11, a’i llysferch Aimee Goldsmith, 11.

Roedd yn gyrru am 50 milltir yr awr pan wnaeth y lori daro’r car a’i wasgu i draean ei faint arferol ar 10 Awst, gan ladd y teulu o Bedfordshire yn y fan a’r lle.

Clwydodd y llys fod Tomasz Kroker o Hampshire wedi rhoi gymaint o sylw i’w ffon fel nad oedd wedi edrych rhyw lawer ar y ffordd am gilometr.

Fe blediodd yn euog i bedwar achos o ladd trwy yrru’n beryglus.

Mae teulu’r ddynes fu farw yn dadlau nad yw’r ddedfryd yn “gwneud cyfiawnder a’r drosedd”.