Yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething
Fe fydd buddsoddiad gwerth £350 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn gymorth i godi Canolfan Gofal Arbenigol a Chritigol newydd yn rhanbarth Gwent.
Pan fydd wedi’i adeiladu, bydd yr ysbyty newydd yn Llanfrechfa yn trin cleifion sydd angen gofal brys cymhleth ac acíwt – fel rhan o strategaeth i foderneiddio gwasanaethau iechyd Gwent.
Nid yw costau terfynol y tendr wedi’u cytuno eto, ond bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi tua £350 miliwn yn yr ysbyty newydd, gyda disgwyl iddo agor yn 2022.
Er bod y Ganolfan yn rhan allweddol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, mae Llywodraeth Cymru’n disgwyl i’r ysbyty newydd chwarae rhan bwysig ar draws y de, gan gyd-weithio gydag ysbytai mawr eraill.
‘Cefnogaeth’
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething: “Mae’r Ganolfan wedi cael cefnogaeth gref yn lleol a thrwy ymgynghoriad cyhoeddus ar Raglen De Cymru.
“Rwy’n hyderus y bydd uno gwasanaethau cymhleth ac acíwt ar un safle ysbyty yn caniatáu i’r bwrdd iechyd lleol sicrhau amrywiol fanteision a fydd yn gwella ansawdd gofal i gleifion.
“Rydyn ni’n gweithio’n ddiflino i wella gofal iechyd yng Nghymru, ac fe fydd hynny’n parhau. Rwy’n benderfynol o gynllunio a datblygu gwasanaethau ar lefel ranbarthol yn ogystal ag ar lefel leol er lles pob un o bobl y de. Mae’r Ganolfan hon yn gam cadarnhaol, ac fe fydd nifer fawr iawn o gleifion yn medru manteisio arni am flynyddoedd i ddod.”