Llun: PA
Mae arolwg cyntaf o’i fath, a fydd yn holi barn athrawon a gweithwyr addysg ac yn rhoi cyfle iddyn nhw ddylanwadu ar ddatblygiad polisi addysg yng Nghymru, wedi’i lansio.
Wrth gyhoeddi’r arolwg heddiw, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Kirsty Williams AC ei bod yn bwriadu codi statws y proffesiwn addysg yn gyffredinol.
Bydd athrawon ysgol, athrawon addysg bellach ynghyd â gweithwyr cymorth yn cael cyfle i gwblhau’r arolwg 10 munud gan leisio barn ar ddatblygiad proffesiynol, rheoli perfformiad, a llwyth gwaith.
Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) sy’n cynnal yr arolwg a bydd yn cael ei gynnal tan 2 Rhagfyr.
‘Cyfle euraid’
Meddai Cadeirydd CGA Angela Jardine: “Dyma’r tro cyntaf i’r gweithlu addysg yng Nghymru gael dweud eu dweud ar bopeth sy’n effeithio arnynt – o lwyth gwaith i reoli perfformiad.
“Mae’n gyfle euraid i staff ledled y wlad fynegi eu barn er mwyn llunio polisi addysgol yn y dyfodol. Byddwn yn ystyried y canlyniadau yn ofalus, gyda’r gobaith o’u cyhoeddi ym mis Ionawr 2017.”
Ychwanegodd Kirsty Williams: “Rwyf am weithio’n agos gyda’r gweithlu addysg i’w helpu i fod y gorau y gallant fod, wrth godi statws y proffesiynau yn gyffredinol. Heb weithwyr proffesiynol brwdfrydig, medrus sy’n cael eu gwerthfawrogi, ni allwn gynnig y cyfleoedd addysgol y mae ein dysgwyr yn eu haeddu.