Cynlluniau ar gyfer Parc Gwyddoniaeth Menai
Mae’r dywarchen gyntaf wedi’i thorri a’r gwaith wedi dechrau ar adeiladu parc gwyddoniaeth penodol cyntaf Cymru.

Mewn digwyddiad ar y safle yng Ngaerwen, Ynys Môn y bore ma fe ddaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, aelodau o dîm y prosiect, cyn rychiolwyr o Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, Prifysgol Bangor a chontractwyr y safle Willmot Dixon ynghyd yn y seremoni.

Mae Parc Gwyddoniaeth Menai (M-SParc) yn ddatblygiad £20m o fewn Ardal Fenter Ynys Môn a fydd yn agor ei ddrysau yn 2018.

Cwmni dan adain Prifysgol Bangor sydd wedi cyflwyno’r cais ac maen nhw wedi dweud y byddai’n creu rhwng 150 a 720 o swyddi dros y 10 mlynedd nesaf.

‘Buddiannau mawr’

Bydd y prosiect yn darparu cyfleusterau swyddfa a labordy o’r radd flaenaf ar gyfer busnesau arloesol yn y rhanbarth ac yn elwa ar £10.8m o gyllid gan Lywodraeth Cymru a £10.2m o Gronfa Datblygu Ewrop.

Y bwriad fydd dod â buddiannau economaidd, gwyddonol a thechnolegol i ranbarth y Gogledd – trwy ganolbwyntio ar sectorau carbon isel ac ynni adnewyddadwy – ac ategu’r buddsoddiad sylweddol yn Wylfa Newydd.

Wrth siarad cyn seremoni torri’r dywarchen, meddai Ken Skates: “Y Parc Gwyddoniaeth yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru, ac unwaith y bydd ei ddrysau wedi agor, rwy’n hyderus y daw â buddiannau mawr i ranbarth y gogledd.”

‘Denu tenantiaid’

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Gweithredol, Ieuan Wyn Jones: “Rydyn ni wedi gorfod gweithio’n galed i gyrraedd lle ydyn ni heddiw, ac mae’n dda gweld gwaith yn dechrau ar y safle.

“Y tu ôl i’r llenni, rydyn ni wedi bod yn gweithio i ddenu tenantiaid ac mae gennym nifer o gwmnïau eisoes wedi arwyddo fel Tenantiaid Rhithiol.

“Rydyn ni’n falch ein bod yn gallu cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth i’r cwmnïau hyn.  Mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n dod o’r rhanbarth a da yw gallu datgan felly bod y galw’n bod yn y rhanbarth am Barc Gwyddoniaeth.”