Iris Owens Llun: Heddlu Gwent
Fe fydd dyn yn cael ei ddedfrydu yfory am lofruddio ei fam yng ngardd ei chartref yn Ystrad Mynach, Sir Gaerffili.

Fis diwethaf, fe wnaeth Robert John Owens, 47, bledio’n euog i’r drosedd a ddigwyddodd ar 3 Mai y llynedd.

Roedd Iris Owens yn 75 oed pan gafodd ei llofruddio ac fe ddywedodd crwner ei bod wedi marw o “anafiadau trawmatig i’w phen a’i gwddf”.

Cafodd ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, ond fe ddywedodd parafeddygon ei bod hi wedi marw pan gafwyd hyd iddi yn ei gardd.

Roedd disgwyl i Robert John Owens gael ei ddedfrydu yn ddiweddarach heddiw, ond mae’r ddedfryd wedi’i gohirio tan ’fory.