Mae criw o chwech o fechgyn yn eu harddegau wedi’u harestio ar amheuaeth o amharu ar draffig yng Nghasnewydd dros y penwythnos.

Derbyniodd Heddlu Gwent adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol ym Mharc Tredegar a Heol Cas-gwent yng Nghasnewydd ar ddydd Sadwrn, Hydref 29.

Yn ôl yr heddlu roedd criw o bobol ifanc i’w gweld ar eu beiciau yn rhwystro’r ffordd ac yn achosi problemau traffig.

Ers hynny, mae chwe bachgen yn eu harddegau wedi’u harestio a’u rhyddhau ar fechnïaeth yn dilyn ymholiadau pellach.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101 neu Daclo’r Taclau ar 0800555111